Lleoliad:
Video Conference via Zoom
Dyddiad: Dydd Mawrth, 12 Ionawr 2021
Amser:
09.01 -
09.34
------
Categori |
Enwau |
Aelodau’r Pwyllgor: |
Elin Jones AS, Llywydd (Cadeirydd) Rebecca Evans AS Darren Millar AS Siân Gwenllian AS Caroline Jones AS |
Staff y Pwyllgor: |
Aled Elwyn Jones (Clerc) |
Eraill yn bresennol |
Ann Jones AS, Y Dirprwy Lywydd Manon Antoniazzi, Prif Weithredwr a Chlerc y Senedd Siwan Davies, Cyfarwyddwr Busnes y Senedd Siân Wilkins, Pennaeth Gwasanaeth y Siambr a Phwyllgorau Julian Luke, Pennaeth Pwyllgorau Polisi a Deddfwriaeth Elin Roberts, Cynghorwr Polisi i'r Llywydd Gwion Evans, Pennaeth Swyddfa Breifat y Llywydd Helen Carey, Llywodraeth Cymru Bethan Garwood, Dirprwy Glerc |
1 Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon
2 Cofnodion y cyfarfod blaenorol
3 Trefn Busnes
3.1 Busnes yr wythnos hon
Busnes yr wythnos hon
Dydd Mawrth
· Caiff y Cyfnod Pleidleisio ei gynnal ar ôl yr eitem olaf o fusnes.
· Nid yw'r Cyfarfod Llawn yn debygol o fynd y tu hwnt i 6.40pm.
Dydd Mercher
· Caiff y Cyfnod Pleidleisio ei gynnal cyn y Ddadl Fer.
· Nid yw’r Cyfarfod Llawn yn debygol o fynd y tu hwnt i 5.40pm.
Tynnodd y Trefnydd sylw'r Rheolwyr Busnes at wahanol ychwanegiadau i Fusnes yr Wythnos Hon, gan gynnwys atal Rheolau Sefydlog dros dro ddwy waith er mwyn caniatáu i rai eitemau gael eu cynnal:
· Datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Strategaeth Frechu COVID-19 (45 munud)
· Cynnig i atal Rheolau Sefydlog Dros Dro (5 munud)
· Cynnig o dan Reol Sefydlog 12.24 i gynnal dadl ar y canlynol gyda'i gilydd ond gyda phleidleisiau ar wahân (30 munud)
· Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) (Diwygio) 2020
· Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 2) 2020
· Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, De Affrica) (Cymru) 2020
· Cynnig i atal Rheolau Sefydlog Dros Dro (5 munud)
· Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Masnach (30 munud)
Byddai'r amser ar gyfer y ddadl ar y gyllideb yn gostwng o 90 munud i 60 munud, a’r amseroedd unigol ar gyfer yr Aelodau a'r Gweinidog yn cael eu haddasu’n unol â hynny.
Nododd y Rheolwyr Busnes fod dadl Grŵp y Gynghrair Annibynnol dros Ddiwygio wedi'i gohirio tan yr wythnos nesaf.
Rhith-gyfarfodydd
Cytunodd y Pwyllgor Busnes y bydd y Cyfarfod Llawn yn parhau i fod yn rhithwir am y tro.
3.2 Amserlen busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf
Tynnodd y Trefnydd sylw'r Rheolwyr Busnes at y newidiadau a ganlyn:
Dydd Mawrth 19 Ionawr 2021
· Datganiad gan Weinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru: Ymateb Llywodraeth Cymru i Argymhellion Terfynol Comisiwn Trafnidiaeth De-ddwyrain Cymru (45 munud)
· Datganiad gan y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol: Papur Gwyn ar Gyfundrefn Diogelwch Adeiladu (45 munud)
· Datganiad gan y Gweinidog Addysg: Adrddiad Blynyddol Estyn 2019/20 (45 munud)
· Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol a Chyfyngiadau) (Diwygio) (Cymru) 2021 (15 munud)
· Rheoliadau Iechyd y Cyhoedd (Gwarchodaeth Rhag Troi Allan) (Cymru) (Coronafeirws) 2021 (15 munud)
Dydd Mawrth 26 Ionawr 2021
·
Dadl: Cyfnod 3 y Bil Rhentu
Cartrefi (Diwygio) (Cymru) (180 munud) - gohiriwyd tan 10 Chwefror
3.3 Amserlen busnes y Senedd ar gyfer y tair wythnos nesaf
Cytunodd y Pwyllgor Busnes, tra mae’r Cyfarfodydd Llawn yn parhau'n rhithwir, bydd holl ddadleuon prynhawn Mercher yn 30 munud o hyd, oni bai bod y Cadeirydd yn cyflwyno'r achos dros ddadl 60 munud. Am y cyfnod hwn, bydd pob cyfraniad gan Aelodau ar wahân i'r rhai sy'n agor neu'n cau yn 3 munud yn hytrach na 5.
Cytunodd y Pwyllgor Busnes i gynnwys yr eitemau o fusnes a ganlyn ar yr amserlen:
Dydd Mercher 20 Ionawr 2021 -
·
Amser a neilltuwyd i’r
Ceidwadwyr Cymreig (60 munud)
· Amser a neilltuwyd i Grŵp y Gynghrair Annibynnol dros Ddiwygio (30 munud)
Dydd Mercher 27 Ionawr 2021 -
· Penodi Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru Dros Dro (15 munud)
·
Dadl Fer - Suzy Davies (Gorllewin
De Cymru) (30 munud)
· Dadl Fer – Laura Anne Jones (Dwyrain De Cymru) (30 munud)
Dydd Mercher 3 Chwefror 2021 -
· Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu: Clyw fy nghân: Ymchwiliad i'r diwydiant cerddoriaeth fyw (30 munud)
· Amser a neilltuwyd i’r Ceidwadwyr Cymreig (30 munud)
· Amser a neilltuwyd i Blaid Cymru (30 munud)
·
Dadl Fer – Laura Anne Jones
(Dwyrain De Cymru) (30 munud)
· Dadl Fer - Suzy Davies (Gorllewin De Cymru) (30 munud)
4 Deddfwriaeth
4.1 Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) 2020
Nododd y Pwyllgor Busnes y rheoliadau.
4.2 Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) (Diwygio) 2020
Nododd y Pwyllgor Busnes y rheoliadau.
4.3 Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 2) 2020
Nododd y Pwyllgor Busnes y rheoliadau.
4.4 Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, De Affrica) (Cymru) 2020
Nododd y Pwyllgor Busnes y rheoliadau.
4.5 Rheoliadau Marchnata Hadau a Deunyddiau Lluosogi Planhigion (Diwygio) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2020
Cytunodd y Pwyllgor Busnes i bennu dydd Llun 25 Ionawr fel terfyn amser adrodd i'r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad gyflwyno adroddiad ar y rheoliadau.
4.6 Rheoliadau Rheolaethau Swyddogol (Anifeiliaid, Bwyd Anifeiliaid a Bwyd, Ffioedd Iechyd Planhigion etc.) (Cymru) (Diwygio) (Ymadael â'r UE) 2020
Cytunodd y Pwyllgor Busnes i bennu dydd Llun 25 Ionawr fel terfyn amser adrodd i'r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad gyflwyno adroddiad ar y rheoliadau.
4.7 Rheoliadau Treth Gwarediadau Tirlenwi (Cyfraddau Treth) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 2) 2020
Cytunodd y Pwyllgor Busnes i bennu dydd Llun 1 Chwefror fel terfyn amser adrodd i’r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad gyflwyno adroddiad ar y rheoliadau.
4.8 Rheoliadau Treth Trafodiadau Tir (Bandiau Treth a Chyfraddau Treth) (Cymru) (Diwygio) 2020
Cytunodd y Pwyllgor Busnes i bennu dydd Llun 1 Chwefror fel terfyn amser adrodd i’r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad gyflwyno adroddiad ar y rheoliadau.
4.9 Gorchymyn Ardrethu Annomestig (Lluosydd) (Cymru) 2021
Cytunodd y Pwyllgor Busnes i bennu dydd Llun 8 Chwefror fel terfyn amser adrodd i’r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad gyflwyno adroddiad ar y rheoliadau.
4.10Rheoliadau Iechyd y Cyhoedd (Gwarchodaeth Rhag Troi Allan) (Cymru) (Coronafeirws) 2021
Cytunodd y Pwyllgor Busnes i bennu dydd Llun 18 Ionawr fel terfyn amser adrodd i'r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad gyflwyno adroddiad ar y rheoliadau.
Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol a Chyfyngiadau) (Diwygio) (Cymru) 2021
Cytunodd y Pwyllgor Busnes i bennu dydd Llun 18 Ionawr fel terfyn amser adrodd i'r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad gyflwyno adroddiad ar y rheoliadau.
5 Pwyllgorau
5.1 Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Deisebau
Nododd y Pwyllgor Busnes y llythyr.
Unrhyw faterion eraill
Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol ar y Bil Masnach
Cytunodd y Pwyllgor Busnes i beidio â chyfeirio’r Cynnig i graffu arno gan fod y ddadl ar Gynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Masnach heddiw.
Cyfarfodydd Pwyllgorau
Cyfeiriodd y Llywydd at gyfarfodydd rhithwyr pwyllgorau yn ystod toriad a'r goblygiadau i'r Comisiwn o ran adnoddau. Cytunodd y Pwyllgor Busnes i adolygu Rheol Sefydlog 17.46.
Dyddiadau toriadau
Cadarnhaodd y Pwyllgor Busnes y dyddiadau ar gyfer hanner tymor mis Chwefror:
Dydd Llun 15 Chwefror - Dydd Sul 21 Chwefror 2021
Cyfarfod Ychwanegol 18 Ionawr
Cafodd y Rheolwyr Busnes eu hysbysu gan y Llywydd o'r agenda ar gyfer y cyfarfod ychwanegol cyntaf ar 18 Ionawr:
Papurau i'w hystyried am y tro cyntaf
· Brexit (Rheolau Sefydlog 21 a 26)
· Comisiynwyr a sub judice
· Deddfwriaeth - Biliau Cydgrynhoi
Papurau i'w hystyried am yr ail/trydydd tro
· Grwpiau, maint ac Aelodau yn newid
· Adalw
· Adolygiad o Weithdrefnau Busnes Cynnar